Ein Llogi

Mae Neuadd Dwyfor yn berffaith ar gyfer trefnwyr digwyddiadau sy'n chwilio am leoliad creadigol ar gyfer cynadleddau neu gyfarfodydd. Gall ein hawditoriwm hanesyddol ddyblu fel neuadd fawr a gofod ymarfer i berfformwyr. Ar gyfer cynhadledd fwy agos atoch, mae'r lolfeydd yn ddewis perffaith.

Mae gan Neuadd Dwyfor nifer o leoedd amlbwrpas ar gael i'w llogi. Mae gan ein hawditoriwm gapasiti o 140 yn ein seddi theatr ac mae'n berffaith ar gyfer trefnwyr digwyddiadau sy'n chwilio am leoliad creadigol ar gyfer sioeau, cynadleddau neu gyfarfodydd. Gyda'r seddi wedi'u tynnu'n ôl mae'r llawr yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n dymuno cynnal dosbarthiadau, gweithdai neu gyfarfodydd.

Ar gyfer digwyddiadau mwy agos atoch, mae'r lolfeydd ysgafn ac awyrog yn ddewis perffaith. Gellir llogi'r ystafelloedd hyn ar wahân neu gyda'i gilydd. Mae gan yr ystafell leiaf le i 6 ac mae'n berffaith ar gyfer cyfarfodydd bach, cyfweliadau a dosbarthiadau. Mae gan yr ystafell fwy gynhwysedd o 16. Gellir ei sefydlu fel ystafell fwrdd, perffaith ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ychydig yn fwy.

Mae'r Llyfrgell ar gael i'w llogi mwyafrif o nosweithiau ac mae'n berffaith ar gyfer clybiau llyfrau, dosbarthiadau neu brosiectau cymunedol.


Cysylltwch â'r tîm os oes gennych unrhyw ofynion arlwyo neu arbennig.

Aelodaeth

Trwy ddod yn aelod byddwch chi'n neidio'r ciw a bod ymhlith y cyntaf i gael gafael ar docynnau i'n ffilmiau a sioeau. Aelodaeth Clwb Ffilmiau - £20 y flwyddyn + 20% i ffwrdd paneidiau. Pris bob Ffilm am £4.50

Gwirfoddoli

Hoffech chi rhoi gynnig ar weithio yn y diwydiant cyffrous hwn? Rydym yn barod i groesawu unrhyw wirfoddolwr brwdfrydig i helpu’r tîm gyda bob math o swyddi, fel marchnata, sioeau byw a llawer mwy.  

“Drwy wirfoddoli yn Neuadd Dwyfor rwyf wedi magu sgiliau o weithio gyda phobl eraill, drwy weithio ar set gyda cwmni theatr, a gweithio yn y swyddfa docynnau a blaen tŷ. Cefais brofiad hwylus yn cyfarfod pobol gwych a fydd yn ffrindiau am oes” - Ioan Parry, 17 oed

Ffurflen gais