Mae Neuadd Dwyfor wedi gweld gwelliannau sylweddol i du fewn yr adeilad, gyda chyntedd croesawgar newydd a chaffi bar yn croesawu ymwelwyr yn ôl i’r Theatr a’r Sinema. Mae bar a lolfa newydd yn cael eu creu i fyny’r grisiau. Mae seddau newydd yn yr awditoriwm a balconi uchaf, gyda 222 o seddi gan gynnwys 2 le dynodedig ar gyfer cadeiriau olwyn. Agorodd y Llyfrgell ar ei newydd wedd ar y llawr gwaelod ar 14 Chwefror. Bydd gwaith adfer pellach yn parhau eleni ar yr adeilad brics coch hanesyddol, a’r gobaith yw y bydd Neuadd Dwyfor yn datblygu i fod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer y sîn celfyddydol a diwylliannol yn Llyn, a hefyd yn ganolbwynt cymunedol i roi bywyd newydd i dref Pwllheli. Mae’r awditoriwm a’r ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi yn ystod y dydd a gofod y Llyfrgell gyda’r hwyr.

Cysylltwch â Neuadd_Dwyfor@gwynedd.llyw.cymru am fanylion.

Rydym i gyd yn gyffrous iawn i groesawu defnyddwyr - hen a newydd - yn ôl i Neuadd Dwyfor a gwyddom fod pobl wedi gweld eisiau'r sinema a'r cynyrchiadau llwyfan yn arbennig. Gobeithiwn y bydd pobl yn hoffi’r newidiadau sydd wedi’u gwneud, tra’n dal i gadw, gobeithio, y cymeriad cartrefol ac unigryw hwnnw y mae pobl yn ei garu ac yn ei werthfawrogi yn Neuadd Dwyfor.