Rydym yn ymrwymo bod ein adeilad a'r profiadau a gynigir

 

banner

 

YR ADEILAD


Mae ein hadeilad yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae’r maes parcio gyferbyn â’r adeilad gyda lle parcio hygyrch. Rydym hefyd yn cynnig ystod o gyfleusterau mynediad, megis:


• Mae'r Swyddfa Docynnau yn is i gynorthwyo pobl â chadeiriau olwyn.
• Mae gan Lefel 0 ac 1 doiledau hygyrch.
• Mae cyfleusterau newid babanod ar gael ar lefel 0 ac 1.
• Mae lifft ar gael i lefel 1.
• Mae croeso i Anifeiliaid Cymorth ym mhob rhan o'r adeilad ac mae powlenni dŵr ar gael ar gais.
• Mae'r llyfrgell ar lefel 0 ac mae'n hygyrch i gadeiriau olwyn

 

DIGWYDDIADAU


Mae gennym amryw o ddigwyddiadau sy'n cynnwys Dangosiadau Hamddenol ac isdeitlau Capsiwn. I ddarganfod a yw digwyddiad yn cynnig un o’r opsiynau hyn, edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadur. Ewch i'n tudalen Hygyrch Sinema i gael rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o ddangosiadau. Mae’r Awditoriwm ar lefel 1, gellir ei gyrraedd drwy’r lifft neu’r grisiau, mae yma hefyd lefydd ar gyfer cadeiriau olwyn.

 

MANNAU GWAITH


Mae gennym ni lu o gilfachau a chorneli gyda socedi USB a socedi plwg. Mae'r rhain wedi'u lleoli ar lefel 0 yn y cyntedd neu'r llyfrgell. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.