Mae Neuadd Dwyfor wedi trawsnewid y Swyddfa Docynnau a’r cyntedd yn fan agored gyda Café Bar. Yn ogystal ag archebu eich tocynnau rydym yn gweini diodydd poeth, gan gynnwys coffi ffres Dwyfor neu rywbeth ychydig yn gryfach os dymunwch!

Dewch i gwrdd â ffrind ac ymlacio ar ein seddi moethus, neu gael seibiant gyda llyfr o'r llyfrgell, neu dal fyny gyda'r papurau dyddiol. Mae gennym ni socedi gyda phyrth USB ar gyfer eich ffôn, tabled neu liniadur.

Mae pwyntiau gwybodaeth ar gael, yma gallwch archebu tocynnau yn amser eich hunan, cael golwg ar amserlenni bysiau Gwynedd neu ddarganfod mwy am yr ardal.

Mae'r caffi ar agor am 10 bob bore, ac ar gau dydd Sul.

Ein oriau agor newydd o 1af Ebrill yw:

Llun - 1300 - 18:00
Mawrth i Gwener – 13:00 – 17:00
Sadwrn – 10:00 – 13:00
Sul - AR GAU