DATGANIAD HYGYRCHEDD GWEFAN NEUADD DWYFOR

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Neuadd Dwyfor.

Cyngor Gwynedd sy'n cynnal y wefan, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (er enghraifft NVDA)

ADBORTH A MANYLION CYSWLLT

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â:

e-bost:  neuadd_dwyfor@gwynedd.llyw.cymru

ffôn: 01758 704088

Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

RHOI GWYBOD I NI AM BROBLEMAU EFO'R WEFAN

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:  neuadd_dwyfor@gwynedd.llyw.cymru.

GWEITHDREFN ORFODI

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (Cyswllt allanol).

CYSYLLTU Â NI DROS Y FFÔN NEU WYNEB YN WYNEB

Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni. Os hoffwch gysylltu â ni yn uniongyrchol, y cyfeiriad e-bost yw:  neuadd_dwyfor@gwynedd.llyw.cymru.

GWYBODAETH DECHNEGOL AM HYGYRCHEDD AR Y WEFAN

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (cyswllt allanol) o ganlyniad i'r enghreifftiau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.

  1. Nid yw’r cyferbyniad lliw yn ddigonol mewn rhai rhannau o’r wefan. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 AA creiteria 1.4.3 (Cyferbyniad).
  2. Mae rhai cysylltau gwag yn cael ei defnyddio i llywio sioe sleidiau ac ar rhai delweddau arall. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A creiteria 2.4.4 (Pwrpas Cyswllt).
  3. Nid oes testun cyfatebol ar gyfer cryno lun fideos YouTube. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A creiteria 2.4.4 (Pwrpas Cyswllt).
  4. Nid yw'r ffeil PDF yn hollol hygyrch.

BETH RYDYM YN EI WNEUD I WELLA HYGYRCHEDD

Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd er mwyn adrodd ar ein cynnydd.

Rydym am geisio sicrhau bod pob PDF sydd yn cael ei gyhoeddi o’r newydd ar y wefan yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd.

PARATOI Y DATGANIAD HYGYRCHEDD HWN

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 25 February  2022.

Cafodd holl dudalennau y wefan eu profi ddiwethaf ar 28 February  2022 gan ddefnyddio profion-llaw a defnydd o technoleg fel ‘WAVE web accessibility evaluation tool’.

Fe brofwyd:

Pob tudalen ar y wefan ac un ffeil PDF.